Mae Linda yn Bensaer Cadwraeth cofrestredig gyda’r RIBA. Mae hi wedi gweithio ar adeiladau rhestredig a phrosiectau cadwraeth ers dros 30 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae Penseiri BABB yn gweithio ar nifer o brosiectau adeiladu rhestredig, gan gynnwys estyniad i adeilad rhestredig a gweddnewid adeilad rhestredig er mwyn hongian llechi ar un drychiad.
Mae’r canlynol yn ddetholiad o brosiectau eraill y mae Linda a Rhodri wedi gweithio arnynt, gan ddangos eu profiad. Ar gyfer pob prosiect disgrifir swyddogaeth pob unigolyn. Gan fod Penseiri BABB yn bractis newydd, ymgymerwyd y prosiectau hyn yn eu practis blaenorol (Acanthus Holden) a chydnabyddir hyn.
Gwesty Priordy Penrhiw, Tyddewi
Y cynllun hwn oedd adfer a throsi Priordy Penrhiw ar gyfer y Retreats Group. Roedd y prosiect yn cynnwys trosi adeilad rhestredig Gradd II yn westy. Adeiladwyd yn wreiddiol fel ficerdy ym 1882-1884 ac ers hynny fe’i defnyddiwyd fel lleiandy ac encil. Yn y 1960au ychwanegwyd nifer o estyniadau di-gydymdeimlad. Fel rhan o’r cynllun cafodd y rhain eu dymchwel, gan adfer rhannau coll y drychiad. Bu cyfranogiad Linda o’r cychwyn i’r diwedd.
Rôl Linda: Cynllunydd arweiniol (Camau RIBA 2-7)
Rôl Rhodri: Lluniau CAD
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Retreats Group
Dyddiad: 2009-12
Lleoliad: Tyddewi, Sir Benfro
Cydweithredwyr: Carreg Construction, Roger Casey Associates, Shaun Kimsey
Cynllun THI Aberdâr
Darparodd Linda wasanaethau cadwraeth i gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer cynllun Menter Treftadaeth Treflun Aberdâr rhwng 2012 a 2013.
Rôl Linda: Pensaer Cadwraeth
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhonda Cynon Taf
Dyddiad: 2012-13
Lleoliad: Aberdâr, RhCT