Yn arbennygu mewn dylunio pensaernïol, ymgynghori cynllunio, cadwraeth a rheoli prosiectau rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Tîm

Linda Jones
BSc BArch MA RIBA CA MRTPI

Mae Linda Jones (Cyfarwyddwr) yn Bensaer Siartredig, yn aelod o ARB a’r RIBA, yn Gynllunydd Tref Siartredig gydag aelodaeth o’r RTPI. Yn ogystal, mae ganddi brofiad fel dylunydd arweiniol ar nifer o brosiectau Passivhaus, ac hefyd yn Bensaer Cadwraeth cofrestredig gyda’r RIBA. Mae’r practis wedi’i leoli yn Hendy-gwyn ar Daf, lleoliad canolog i wasanaethu Gorllewin Cymru a thu hwnt. Mae Linda yn siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio mewn busnes yn ogystal ag yn gymdeithasol.

 

Rhodri Devonald, ACIAT
Uwch Dechnegydd

Mae Rhodri Devonald yn saer coed trwy alwedigaeth ond sydd wedi gweithio fel technegydd pensaernïol ers dros 20 mlynedd. Mae Rhodri yn Oruchwyliwr Prosiect NEC achrededig ac yn rheoli systemau BIM a CAD y practis. Yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio ar bedwar cynllun Passivhaus ac wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r manylion dylunio iddyn nhw.