Yn arbennygu mewn dylunio pensaernïol, ymgynghori cynllunio, cadwraeth a rheoli prosiectau rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Tai

Mae Linda a Rhodri wedi gweithio ar nifer o gynlluniau tai dros eu gyrfaoedd.  Maent wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys, tai unwaith ac am byth, trawsnewid ysguboriau, tai cymdeithasol, tai i’r henoed a thai sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl anabl.

Ar rai cynlluniau maent wedi bod yn rhan o bob Cam RIBA gan gynnwys datblygu’r astudiaethau briff a dichonoldeb, dylunio cysyniad, ceisiadau cynllunio, dylunio technegol, darluniau Rheoliadau Adeiladu, manyleb, rôl gweinyddwr contractau, archwiliadau safle.

Mae cymhwyster proffesiynol deuol Linda o Bensaer / Cynllunydd yn hynod ddefnyddiol wrth drafod cynlluniau drwy’r broses gynllunio. Mae Linda hefyd wedi bod yn rhan o asesiadau hyfywedd ar gyfer rhai o’r cynlluniau tai.

 

Llys Moorfield, Arberth

Mae Penseiri BABB wedi cael eu comisiynu i ail-ddylunio cynllun tai ar gyfer CLS Civil Engineering ar safle yn Arberth. Cyflwynwyd cais cynllunio Adran 73.

Linda – Cynllunydd arweiniol (RIBA Cam 3)

Rhodri – Rheolwr Tîm Tasg BIM

Cleient: CLS Civil Engineering Ltd

Dyddiad: 2023

Lleoliad: Arberth, Sir Benfro

Cydweithio: CLS Engineering

Dyma ychydig o wybodaeth am ddetholiad o brosiectau y mae Rhodri a Linda wedi gweithio arnynt. Gan fod Penseiri BABB yn bractis newydd, cydnabyddir prosiectau a ymgymerwyd gan Acanthus Holden. Ar gyfer pob prosiect disgrifir rôl pob unigolyn.

 

Wauniago Housing, Caerfyrddin (2022-23)

Cynhyrchwyd dyluniadau Cam 3 ar gyfer y cynllun tai hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Roedd y cynllun yn cynnwys teras o dai angen cyffredinol sef 3 tŷ dwy ystafell wely a thŷ pedair ystafell wely. Dyluniwyd y cynllun i ddilyn y dull ‘fabric first’ gyda ffabrig allanol wedi’i inswleiddio’n fawr, manylu Passivhaus, a systemau gwresogi a oedd yn osgoi’r defnydd o danwydd ffosil. Comisiynwyd Acanthus Holden i symud y cynllun ymlaen i Cam 4 RIBA a chafodd Linda a Rhodri y rolau canlynol ar gyfer y cam hwn:

Rolau:

Linda – Cynllunydd Arweiniol (RIBA Cam 4)

Rhodri  – Rheolwr Tîm Tasg BIM a manylion technegol Cam 4 RIBA

(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)

Cleient: Lloyd a Gravell

Dyddiad: 2022-23

Lleoliad: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Cydweithio: Lloyd a Gravell, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bullock Consulting, Cartrefi Treharne, Roger Casey Associates

 

Tai yn Angle, Sir Benfro

Mae’r cynllun tai cymdeithasol hwn dros 20 oed ond mae’n enghraifft o gynllun tai cymdeithasol y mae Linda wedi cynllunio yn ei phractis blaenorol (Acanthus Holden). Yng nghefn y safle mae tai marchnad a gynlluniodd Linda ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

Cleient: Cymdeithas Tai Sir Benfro

Lleoliad: Angle, Sir Benfro

Cydweithio: Teague Construction