Yn arbennygu mewn dylunio pensaernïol, ymgynghori cynllunio, cadwraeth a rheoli prosiectau rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Proffil y Busnes

Amdanom Ni

Mae Penseiri BABB yn Bractis Pensaernïol Siartredig RIBA sydd wedi’i leoli yn Hendy-gwyn ar Daf, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Gall y practis ddarparu gwasanaethau dylunio cynhwysfawr sy’n ymestyn o’r dechrau i’r diwedd. Tra bod y practis yn newydd, mae gan Linda 30 mlynedd o brofiad o weithio yng Ngorllewin Cymru, a Rhodri dros 20 mlynedd.

Mae’r practis yn awyddus i hyrwyddo atebion cynaliadwy lle y gall, gan gydnabod y rhan sydd ganddo i’w chwarae nid yn unig wrth ystyried cynaliadwyedd mewn arferion busnes, ond hefyd y dylanwad y gall ei gael ar yr adeiladau y mae’n eu dylunio. Mae Linda Jones yn Ddylunydd Passivhaus a chyn hynny roedd yn Asesydd CSH.