Mae gan Linda a Rhodri o Benseiri BABB brofiad o weithio ar brosiectau addysg, ar ôl gweithio ar:
- 3 ysgol gynradd newydd,
- ailwampio ysgol uwchradd i ffurfio ysgol gynradd newydd,
- adnewyddu ystafelloedd dosbarth o fewn bloc uwchradd,
- estyniadau ystafell ddosbarth, a
- ffenestri newydd a gwaith arall i goleg Addysg Bellach.
Mae’r canlynol yn ddetholiad o brosiectau y mae Rhodri a Linda wedi gweithio arnynt dros y 5 mlynedd diwethaf. Ar gyfer pob prosiect disgrifir swyddogaeth pob unigolyn. Gan fod Penseiri BABB yn bractis newydd, cynhaliwyd y prosiectau hyn yn eu practis blaenorol (Acanthus Holden) a chydnabyddir hyn.
CYN YSGOL PANTYCELYN (2019-2021)
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys trosi hen ysgol uwchradd i ysgol gynradd newydd i 240 o ddisgyblion yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Camau RIBA 4 i 7 o dan gontract Dylunio ac Adeiladu. Roedd cynlluniau cam 3 wedi’u cwblhau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Cost y prosiect tua £4.3. miliwn.
Swyddogaeth:
Linda – Cynllunydd arweiniol (Camau RIBA 4 i 7)
Rhodri – Arweinydd Manylion technegol (Camau RIBA 4 i 7)
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Lloyd a Gravell
Dyddiad: 2019-20
Lleoliad: Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Cydweithio: Lloyd a Gravell, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bullock Consulting, Roger Casey Associates
YSGOL GORSLAS, GORSLAS, (2019-2022)
Ysgol newydd ddeulawr, wyth ystafell ddosbarth, ffrâm bren, yng Ngorslas. Dyluniwyd Cam 4 gan ddefnyddio Revit, (BIM). Fe’i comisiynwyd gan Lloyd a Gravell o dan Gontract Dylunio ac Adeiladu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Roedd cynlluniau Cam 3 wedi’u cwblhau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r ysgol wedi’i chynllunio i Safonau Passivhaus ac wedi’i hinswleiddio’n uchel iawn ac mae ganddi gostau rhedeg isel iawn. Ar gyfer safonau Passivhaus roedd angen i’r ysgol gyrraedd lefel aerglos o 0.6 yn 50Pa ac mae’r adeilad wedi mynd tu hwnt i hyn yn dda. Ar ôl cyfnod heriol ar y safle oherwydd y pandemig, cwblhawyd yr ysgol yn 2022 a symudodd y plant i mewn ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.
Swyddogaeth:
Linda – Cynllunydd arweiniol ar gyfer Camau RIBA 4 i 6
Rhodri – Rheolwr Tîm Tasg BIM a manylion technegol
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Lloyd a Gravell
Dyddiad: 2019-22
Lleoliad: Gorslas, Sir Gaerfyrddin
Cydweithio: Lloyd a Gravell, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bullock Consulting, Roger Casey Associates
YSGOL Y CASTELL, CYDWELI, (2019-23)
Cynllunydd arweiniol ar gyfer Camau 4 -7 o ysgol gynradd newydd, ffrâm bren, dwy lawr, £7.4 miliwn yng Nghydweli. Roedd cynlluniau Cam 3 wedi’u cwblhau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, neuadd gymunedol a chegin dosbarthu. Mae’r ysgol wedi’i chynllunio i safonau Passivhaus a disgwylir Ardystiad Passivhaus yn fuan. Symudodd y disgyblion i’r ysgol ym mis Tachwedd 2022.
Swyddogaeth:
Linda – Cynllunydd arweiniol (Camau RIBA 4 i 7)
Rhodri – Rheolwr Tîm Tasg BIM a manylu technegol
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Lloyd a Gravell
Dyddiad: 2019-23
Lleoliad: Cydweli, Sir Gaerfyrddin
Cydweithio: Lloyd a Gravell, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bullock Consulting, Roger Casey Associates, Red-six.
YSGOL PENBRE
Mae’r prosiect hwn ar gyfer ysgol gynradd newydd ddeulawr, ffrâm bren, wyth ystafell ddosbarth, gyda gegin masnachol ym Mhenbre. Roedd cynlluniau Cam 3 wedi’u cwblhau gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r ysgol wedi’i chynllunio i Safonau Passivhaus ac mae ar y safle ar hyn o bryd.
Swyddogaeth:
Linda – Cynllunydd Arweiniol (Camau RIBA 4 i 5)
Rhodri – Rheolwr Tîm Tasg BIM a manylion technegol (Cyfnod RIBA 4 i 5)
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: TRJ Construction
Dyddiad: 2019-23
Lleoliad: Penbre, Sir Gaerfyrddin
Cydweithio: TRJ Construction, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bullock Consulting, Roger Casey Associates, Warm Associates.
COLEG SIR BENFRO, FFENESTRI NEWYDD, (2021-23)
Roedd y prosiect hwn yn rhaglen tair blynedd o wella ac adnewyddu’r ffasad murlen a ffenestri er mwyn cyfrannu tuag at nod y Coleg o gyflawni Canllawiau Adrodd Carbon Sero Net 2030 Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys gosod offer PV i doeau. Cafodd blynyddoedd 1 a 2 eu cwblhau a Cam 4 ar gyfer Blwyddyn 3 eu cwblhau gan Rhodri a Linda.
Swyddogaeth:
Linda – Cynllunydd arweiniol (Camau RIBA 2 i 5)
Rhodri – Rheolwr Tîm Tasg BIM, manylion technegol ac archwiliadau safle
(Blwyddyn 1 a 2 yn gyflawn a Cam 4 ar gyfer Blwyddyn 3)
(Tra’n gweithio i Acanthus Holden)
Cleient: Coleg Sir Benfro
Dyddiad: 2021-23
Lleoliad: Hwlffordd, Sir Benfro
Cydweithredwyr: WB Griffiths a’i Fab, Bullock Consulting